Chwiw. Aeth hynny’n gyflym, neu efallai’n araf iawn – dwi ddim yn siŵr. Cynhaliwyd Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu’r wythnos diwethaf a chwaraeodd pob gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol ei ran mewn ymgyrch proffil uchel a drefnwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Fel rhan o ddigwyddiad i lansio’r ymgyrch fawr drosgynnol ‘Darganfydda’r rhiant sydd ynot ti’ – digwyddodd rhai pethau am y tro cyntaf erioed yr wythnos diwethaf…o ddarlledu’r hysbyseb mabwysiadu cyntaf ar y teledu yng Nghymru i ymddangosiad cyntaf swyddog marchnata llawn amser Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin (GMBG)!
Petai hi’n addas i fi ei wneud, bydden i’n fy nghanmol fy hun!
Fel yr awgrymwyd gennyf ar ddechrau’r blog hwn, mae wedi bod yn wythnos brysur. Roedd pencadlys GMBG yn llawn gweithgarwch a oedd yn cynnwys fframiau hunlun, nwyddau’n cael eu hanfon i fannau cyhoeddus, printio crysau-t (cewch glywed rhagor am hynny cyn hir), trefnu digwyddiadau, paratoi pecynnau a bwyta teisennod.
Dwi erioed wedi gweithio mewn syrcas, ond roedd angen i fi jyglo gweithgareddau yn ystod yr wythnos, oherwydd roedd angen cydbwyso anghenion cyfathrebu’r wythnos mabwysiadu â gwaith ymgysylltu ac allgymorth mewn busnesau mawr lleol a’r gymuned leol.
Buom yng Nghanolfan siopa Aberafan ddydd Mawrth, ac roedd yn brofiad gwych i siarad â phobl a chlywed o lygad y ffynnon am y profiadau a gafwyd gan bobl yn yr ardal.
Roedd y bobl a aeth â’n pennau ysgrifennu oedd wedi’u brandio’n ddiddorol hefyd, ac mae’n rhaid bod gennym nifer mawr o ysgrifenwyr gwrywaidd hŷn yn yr ardal – sy’n ddisgwyliedig mewn tref sydd wedi cynhyrchu rhai o actorion gorau Hollywood!
Diolch hefyd i Tata Steel am ganiatáu i ni osod stondin yn y ffreutur ddydd Llun. Cawsom gyfle i ymgysylltu â gweithwyr, a chawsom rai ymholiadau addawol gan fabwysiadwyr posib yn y dyfodol.
Un peth a ddysgais yn ystod ein sesiwn yn TATA Steel oedd cynifer y bobl yr effeithiwyd arnynt gan fabwysiadu a maethu, boed hynny am eu bod wedi cael eu mabwysiadu eu hunain neu wedi cael profiadau maethu cyn hyn.
Cynhaliwyd digwyddiad proffilio llwyddiannus yr wythnos hon hefyd, â’r bwriad o gymryd y camau i baru plant â’r mabwysiadwyr cywir.
Lansiwyd ymgyrch ‘Darganfydda’r rhiant ynot ti’ gan y gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer mabwysiadu ac roedd yn amlochrog. Cafwyd hysbysebu allanol ac ar y teledu, ynghyd ag ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, lle’r oedd y neges yn canolbwyntio ar y mabwysiadwr ac yn chwalu rhwystrau a chamdybiaethau ynghylch cymhwyster, ac yn hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mabwysiadu – ar y plentyn a’r mabwysiadwr.
Mae pob gwasanaeth rhanbarthol wedi cael diwrnod i reoli’r cyfrif cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth a nodi ei lwyddiannau diweddar – cafodd Bae’r Gorllewin ei gyfle ddydd Llun 21 Hydref. Cafwyd cynnydd yn nifer yr ymholiadau rydym wedi’u derbyn yr wythnos hon. Nid ydym wedi cael cyfle i fesur hyn hyd yn hyn, ond mae’n rhaid bod rhai o’r lluniau a’r negeseuon pwerus ac emosiynol yn y cyfryngau wedi chwarae eu rhan.
Wrth i Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin gamu ymlaen i 2020, mae nifer o ddatblygiadau cyffrous yn yr arfaeth. Cafwyd buddsoddiad cenedlaethol mewn mabwysiadu’n ddiweddar gwerth £2.3m ac mae Bae’r Gorllewin yn bwriadu ehangu’r tîm trwy benodi gweithwyr cymdeithasol ychwanegol, cydlynydd TESSA, swyddog cynnwys plant, therapyddion a swyddog marchnata.
Nid yw’n holl waith yn ystod y 5 niwrnod diwethaf wedi cynnwys Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu’n unig. Yn ogystal â’r prosesau pwysig arferol o gymeradwyo mabwysiadwyr, paru a darparu hyfforddiant, rydym hefyd wedi bod yn cefnogi cynyddu ymwybyddiaeth o ganser y fron (trwy brintio’r crysau-t uchod) a rhoi ein cynlluniau ar waith ar gyfer y rownd nesaf o godi arian ar gyfer elusennau.
Bydd hyn yn cynnwys pobi llawer o deisennau a’u gwerthu, cyfraniadau am wisgo siwmperi Nadolig a dirwyon am beidio â gwneud hynny, rafflau a chystadlaethau – byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi!
Cadwch lygad am ddiweddariadau cyson a ran cynnwys y safle.
#GalliDiFabwysiadu