Mae’r ysgol wedi gorffen am…Coronafeirws. Iawn, nid rhywbeth doniol yw hyn. Dyna’r rheswm pam rydym wedi creu’r arweiniad gorau ar gyfer hunanynysu gyda’ch teulu neu fod y tu mewn fwy nag arfer a chael trefn ddyddiol newydd, anghyfarwydd.

Byddwn yn ceisio diweddaru’r blog hwn a’n cyfryngau cymdeithasol a rhoi cynnwys a syniadau newydd i chi i’ch helpu i ymdopi â’r sefyllfa hon. Yn gyntaf fydd ein llyfryn arweiniad mawr, sy’n llawn gemau, strategaethau ymdopi, trefnau dyddiol a chyngor.

Cliciwch yma i weld yr arweiniad!

Bydd gan deuluoedd fynediad at Wefan Aelodau newydd sbon, a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ddefnyddiol fel hyn, ond gobeithiwn y bydd hwn o ddefnydd yn y cyfamser!

A chofiwch:

 

Daw eto haul ar fryn

 

 

Fab Foster Carers Blog 2 – CymraegCam mawr yn nes at fod yn rhieni