“Hi oedd yr un yr oedd arni hi ein hangen ni…er, rwy’n credu yr oedd arnon ni ei hangen hi hefyd” meddai Jess yn yr agoriad i’r fideo newydd isod gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Er bod hyn yn ystrydebol, mae mabwysiadu yn daith, taith y mae’r rhiant a’r plentyn yn cychwyn arni – wrth gwrs, gall a bydd darnau geirwon a throeon annisgwyl ar hyd y ffordd hon. Ond, dyma yw bywyd, rydym i gyd yn fodau dynol, a dyma’r hyn rydym yn ei wneud.
Ar olwyn brysur ddi-baid y bywyd hwn gallwn yn aml deimlo bod rhywbeth ar goll, ac yn ôl Jess, ei merch oedd y ‘rhywbeth’ hwnnw.
Gall cymryd y cam cyntaf a llenwi’r ffurflen ymholi gymryd cryn ddewrder, ac rydym yn deall hynny. Rydym hefyd yn deall y gall y cyfarfod cyntaf â gweithiwr cymdeithasol beri braw. Ond, rydym yma i chi.
Nid ydym y math o bobl sych, ddihiwmor a geir mewn siwtiau llwyd. Un o’n harbenigeddau yw gwneud i chi deimlo’n gyfforddus ac yn gartrefol. O’r dechrau, yr ymweliad cychwynnol hwnnw, rydym yn ceisio bod yn dryloyw, yn realistig ac yn bwysicaf, yn ymarferol.
Rydym yn deall bod hyn yn beth mawr, a gall y bennod hon yn eich bywyd ei newid yn gyfan gwbl.
Ein nod yw cymeradwyo mewn 6 i 7 mis, ond mae achos pawb yn unigryw – gall y pariad cywir gymryd ychydig yn hwy neu gall fod yn gyflym fel yn achos Jess isod.
Gallai fod oedi ar hyd y ffordd, gallech deimlo’n rhwystredig yn gyflym am nad yw pethau’n datblygu’n ddigon cyflym.
Byddwch yn amyneddgar. Byddwn yn cyrraedd y nod gyda’n gilydd. Rhaid i bopeth fod yn iawn i chi a ni.
Yn y cyfamser, byddwn mewn cysylltiad rheolaidd a gallwch siarad â ni cymaint ag yr hoffech – rydym yma i chi yn ystod pob cam.
Ar ôl i chi gael eich paru’n llwyddiannus a chychwyn ar y daith, mae hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr ar gael. Efallai bydd ambell rwystr, efallai bydd ansicrwydd. Ond fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun. Felly bydd y cyfan yn werth chweil.