Ydych chi'n rhywun y mae mabwysiadu wedi effeithio arnoch?
Yng ngwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin mae cefnogaeth a chymuned yn allweddol i bopeth a wnawn. Mae ein cefnogaeth yn ymestyn o’n teuluoedd mabwysiadol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu, pobl fabwysiedig hŷn i deuluoedd biolegol a phobl y mae mabwysiadu wedi effeithio arnynt. Yma fe welwch wybodaeth am ein timau arbenigol, cyfeillgar sydd wrth law i’ch helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.
Mae ein Tîm Cefnogi Rhieni Biolegol yn darparu gwasanaethau cefnogi arbenigol i rieni plant y mae mabwysiadu’n effeithio arnynt. Rydym yn cydnabod y gall mabwysiadu fod yn brofiad poenus a thrawmatig i bawb dan sylw, a dyna pam rydyn ni yma i gefnogi a helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Rydym yn cynnal grwpiau cymorth bach ar draws ardal gwasanaeth Bae’r Gorllewin a fydd yn anffurfiol ac yn gyfrinachol. Gallwn ddarparu cefnogaeth gyda chyswllt blwch llythyrau ac rydym yn cynnig sesiynau galw heibio os oes angen help arnoch i ysgrifennu llythyr – neu os oes angen sgwrs.
Byddwn hefyd yn cysylltu â rhieni biolegol yn ystod y flwyddyn gyntaf o fabwysiadu i weld a oes angen unrhyw gefnogaeth arnynt.
Helo, fy enw i yw Jo ac rwy’n gweithio yn y Tîm Cefnogi Rhieni Geni. Dyma ychydig o bodlediadau, gwefannau a fideos a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Os ydych chi’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr siaradwch â ni am y tîm RISE, os ydych chi’n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot mae cymorth pellach ar gael drwy’r Timau Adlewyrchu.
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r botwm isod i sgwrsio mwy am hyn.
Gwasanaeth blwch llythyrau mabwysiadu
Mae Tîm Blwch Llythyrau GMBG wrth law i’ch helpu gyda ffordd gyfrinachol a diogel o gyfnewid gwybodaeth bersonol rhwng teuluoedd geni a mabwysiadol.
Rydym yn cynnig:
- Agor a gwirio gohebiaeth i nodi anghenion cefnogi ac i sicrhau cyfrinachedd;
- Cefnogaeth wrth ysgrifennu llythyrau;
- Cyfryngu â phob parti i sicrhau bod yr hyn y cytunir arno’n diwallu anghenion y plentyn;
- Adolygiadau o drefniadau blwch llythyrau.
Dyma ychydig mwy o wybodaeth ddefnyddiol i chi:
Ydych chi'n oedolyn mabwysiedig?
Os ydych yn byw yn nalgylch Bae’r Gorllewin ac am gael mynediad at eich cofnodion geni, gallwn gynnig:
- Cefnogaeth gan weithiwr mabwysiadu profiadol a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch cofnodion geni ac yn rhannu’r rhain â chi – er, bydd angen i chi fod yn 18 oed i wneud hyn. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i ddeall pam y cawsoch eich mabwysiadu ac yn trafod eich teimladau am hyn;
- Gwybodaeth am y gofrestr cyswllt mabwysiadu. Mae hyn yn rhoi oedolion mabwysiedig a’u perthnasau geni (os ydynt ar y gofrestr) mewn cysylltiad â’i gilydd;
- Cyfeirio at asiantaethau a all eich helpu i ganfod perthnasau geni;
- Gwasanaeth canolwr – os ydych yn dod o hyd i berthynas eni, byddwn yn cysylltu â hwy ar eich rhan i ddechrau ac yn eich cefnogi drwy’r broses aduno.