Tîm cefnogi mabwysiadu Bae’r Gorllewin ydyn ni, ac rydym ar gael ar bob adeg i’ch helpu gydag unrhyw ansicrwydd, problemau a chwestiynau a all godi yn ystod eich taith.
Mae ein tîm amlddisgyblaeth yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol therapiwtig, therapyddion arbenigol, seicolegydd a gweithwyr ieuenctid.
Rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau mabwysiadu eraill, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, yr adran iechyd a’r adran addysg.
Upcoming Events
No events found.
Fy enw i yw Sarah ac rwy’n weithiwr cymdeithasol cefnogi mabwysiadu yn GMBG. Rwy’n rhan o’r Tîm Cefnogi Mabwysiadu sydd wrth law i’ch helpu ar hyd eich taith fabwysiadu.
Dyma rai o fy hoff adnoddau mabwysiadu rwy’n gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i chi. P’un a oes angen cymorth arnoch ai peidio, mae mabwysiadu’n daith gydol oes o ddatblygu, dysgu ac addasu. Gall rhai o’r adnoddau hyn eich helpu ar hyd eich ffordd.
Cofiwch, os oes angen i chi drafod unrhyw un o’r pynciau hyn ymhellach neu os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r tîm gan ddefnyddio’r botwm uchod.
Podlediadau
Fideos
What is Therapeutic Parenting?
The Quick Guide to Therapeutic Parenting
PACE - Dan Hughes
Impact of Abuse/Therapeutic Parenting - Sara Naish