Nid penderfyniad dros nos oedd dewis mabwysiadu, roedd yn syniad a ddatblygodd dros gyfnod. Gadewch i mi ein cyflwyno i chi. Roeddwn i’n fenyw yn fy mhedwar degau hwyr ac roedd fy mhartner yn ddyn yn ei bedwar degau cynnar pan ddechreuodd y broses hon. Pan wnaethon ni’r penderfyniad, cysyllton ni â Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin a daeth gweithiwr cymdeithasol i’n tŷ am sgwrs anffurfiol. Neilltuwyd ein gweithiwr cymdeithasol i ni wedyn a dechreuodd ein taith.
Dilynwyd hyn gan weithdy paratoi pedwar diwrnod, a gynhaliwyd gan berson arbennig, lle cafwyd llawer o wybodaeth, rhai trafodaethau grŵp, straeon gwir a llawer o fanylion. Roedd yn sicr yn syniad ardderchog i gynnal y gweithdy ar ddechrau’r broses.
Y gwirionedd yw bod yr holl broses yn ymwthiol! Nid yw’n anodd; mae’n cymryd llawer o amser ond mae er mwyn casglu gwybodaeth amdanochchi , felly mae’r wybodaeth gennych eisoes neu gallwch ddod o hyd iddi. Gofynnir i chi am ble rydych wedi byw a phryd roeddech yn byw yno, i ba ysgol aethoch chi, y swyddi rydych wedi’u cael a’r perthnasoedd sydd gennych. Dyma fy nghyngor i: dywedwch y gwir, byddwch yn glir ac yn hyderus. Bydd angen i chi ddewis rhai pobl er mwyn bod yn ganolwyr; un i chi, un i’ch partner ac un ar gyfer y ddau ohonoch. Cynhwysir eich sefyllfa ariannol hefyd, yn ogystal â gwiriadau iechyd (bydd angen cael archwiliad meddygol llawn).
Mae strwythur pendant ac mae diwedd i’r holl gwestiynau ac yna mae pethau’n mynd yn anos yn fy marn i. Mae un o’r adrannau cyntaf yn sôn amdanoch chi, wedyn mae cwestiynau ynghylch y plentyn rydych am ei fabwysiadu.
Oes gennych ffafriaeth o ran oedran, rhyw, unig blentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd? Ydych chi wedi ystyried mabwysiadu plentyn ag anabledd? Gofynnir i chi dicio blychau ‘ie’, ‘na’ neu ‘efallai’ – roedd hynny’n ofnadwy i mi mewn ffordd. Cefais lawer o drafferth wrth ateb rhai cwestiynau. Roeddwn yn teimlo’n euog am ddweud ‘na’ neu am nodi terfyn oedran, ac roeddwn yn meddwl y byddai ticio rhai blychau penodol yn golygu y byddem yn colli ein plentyn. Roedd fy mhartner yn llawer cryfach na fi yn yr adran hon.
Cwblhawyd y gwaith papur i gyd. Roedd angen cael tua 8 cyfarfod gyda’n gweithiwr cymdeithasol, â’r mwyafrif ohonynt yn cynnwys pawb. Roedd un cyfarfod yn gyfarfod unigol – rwy’n cymryd bod hyn er mwyn sicrhau bod y ddau ohonoch yn ymrwymedig i fabwysiadu plentyn, ac nid yw un dan bwysau i’w wneud gan y llall.
Y rhwystr nesaf oedd diwrnod y panel. Roeddwn yn teimlo dan bwysau am hyn ac roeddwn yn dychmygu y byddai fel cyfweliad am swydd o flaen llwyth o bobl. Nid dyna’r achos o gwbl. Roedd oddeutu 10 o bobl yno ond roedd pob un ohonynt yn ein cefnogi. Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau anodd – dim ond cwestiynau cyffredin a rhai ffeithiau, felly nid oedd yn brofiad gwael o gwbl. Yn ffodus, cawsom ein cymeradwyo.
Daeth y rhan anodd iawn wedi hyn, sef aros, aros ac aros.
Aethom i gyfarfod y panel a chawsom ein cymeradwyo, felly roeddwn yn dychmygu y byddem yn cael plentyn yn syth. Roeddwn yn siŵr mai ein gweithiwr cymdeithasol oedd yno bob tro roedd y ffôn yn canu! Na. Mae’n rhaid cofio bod mabwysiadu’n broses o roi’r plentyn cywir gyda’r teulu cywir, ac mae hynny’n cymryd amser.
Dwi am symud ymlaen nawr. Roedd rhai plant yn addas ar ein cyfer ond, oherwydd rhesymau dilys, ni symudwyd ymlaen gyda’r rhain, ac weithiau nid yw pethau fel daearyddiaeth (h.y. aelodau o’r teulu genedigol yn byw yn rhy agos) o’ch plaid.
Ar ôl ychydig, cawsom wybodaeth am ferch fach; yna daeth mwy o wybodaeth, ffotograffau, cyfarfod â’i gweithiwr cymdeithasol a’r darganfyddwr teuluoedd, ac yna cawsom ragor o fideos a ffotograffau. Cytunon ni i’w mabwysiadu. Yna derbyniom ragor o wybodaeth a chawsom gyfle i gwrdd â’i gofalwyr maeth a’i hathro. Gwnaethom barhau i gytuno.
Yn ystod y broses fabwysiadu, byddwch yn dysgu am y ddau fath o gyswllt, sef cyswllt uniongyrchol a chyswllt anuniongyrchol. Gall cyswllt anuniongyrchol fod trwy weithgaredd fel ysgrifennu llythyrau. Bydd eich plentyn yn ysgrifennu llythyr bob blwyddyn o bosib, neu efallai bob chwe mis, i’w anfon at ei fam/dad/dad-cu/fam-gu (g)enedigol a/neu at ei frodyr neu ei chwiorydd. Weithiau bydd rhai rhieni mabwysiadol yn poeni am y posibilrwydd o gyswllt uniongyrchol, neu’n ansicr ohono. Deallaf y gall y fath gyswllt fod yn anodd cyn, yn ystod ac ar ôl y broses, ond gall fod yn brofiad cadarnhaol iawn. Rydw i wedi darllen llawer ynghylch y mater. Byddwn am warchod fy mhlentyn yn reddfol a sicrhau na fyddai unrhyw un ei wneud yn drist. Hyd yn hyd, rwyf o’r farn bod cyswllt uniongyrchol yn helpu plant i ddeall sut y cawsant eu mabwysiadau, a’r rhesymau pam.
Wedi i ni gwblhau’r gwaith papur, mynd i gyfarfod panel, derbyn gwybodaeth am ferch fach, roedd angen mynd i banel paru.
Roedd yn debyg i’r cyfarfod blaenorol:- ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau cymhleth, dangosom ein llyfr lloffion a oedd yn cynnwys lluniau ohonom ni, ein ci, ein cath, ein tŷ, ein car, lle rydym yn byw, parciau lleol, etc. ac roedd gennym ffon gof â lluniau arni – mae fy mhartner yn greadigol iawn. Roedd gennym flanced wlanog hefyd.
Penderfynwyd yn unfrydol y byddem yn cwrdd â’n merch fach yn fuan iawn.
O.N. rydym wedi cwrdd â hi dros wythnos, ac mae wedi symud i fyw â ni erbyn hyn. Mae bywyd yn braf iawn, iawn.