-
Ein plant, teulu yw popeth.
Pan fo’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am fabwysiadu, maen nhw’n meddwl am fabanod. Er bod gennym fabanod sydd angen eu mabwysiadu, y gwirionedd yw bod y rhan fwyaf o’r plant sydd angen eu mabwysiadu ar draws rhanbarth Bae’r Gorllewin dros flwydd oed ac mae’r ystod oedran yn eang. Yn ogystal, mae gennym bob amser grwpiau o frodyr a/neu chwiorydd a rhai sydd ag anghenion cymhleth.
Gall hyd at 60 o blant fod yn disgwyl cael eu mabwysiadu ar unrhyw adeg yn ardal Bae’r Gorllewin. Mae’r plant hyn rhwng 6 mis a 9 mlwydd oed. Mae’n bwysig bod y plentyn priodol yn cael ei baru â mabwysiadwyr priodol, felly efallai mai nifer fechan yn unig o’r plant hyn fydd yn addas i chi.
Mae ein plant yn hanu o amrywiaeth o gefndiroedd ac maen nhw’r un mor amrywiol ac unigryw â chi!
Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw eu bod wedi cael bywydau ansefydlog a’r hyn y mae ei angen arnynt yw cartref cariadus, cefnogol a pharhaol. Gallwch chi weddnewid eu bywydau. Os byddwch chi’n gwneud hynny, byddan nhw’n gweddnewid eich bywydau chithau!
-
-
-
Arweiniad i Blant ar Fabwysiadu
Mae’r Arweiniad i Blant ar Fabwysiadu wedi’i lunio i gael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd fel y gall fod yn berthnasol i blant o wahanol oedrannau a lefelau gwahanol o ddealltwriaeth. Cliciwch yma i lawrlwytho ein Harweiniad i Blant ar Fabwysiadu.
-
Arweiniad i Blant ar Gefnogaeth Fabwysiadu
Rydym yn darparu cefnogaeth i chi trwy:
- wrando ar eich barn a’ch teimladau;
- eich helpu chi i ddeall eich hanes geni;
- rhoi cefnogaeth i chi wrth ysgrifennu llythyrau blwch post;
- darparu cefnogaeth a chysylltiad ag asiantaethau eraill.
-
-
Darllenwch ein pecyn gwybodaeth manwl. Yng nghefn y pecyn, mae ffurflen Cofrestru Diddordeb. Os hoffech chi i ni gysylltu â chi a chael ymweliad i gychwyn y broses, llenwch y ac anfonwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb atom ni neu ffoniwch ni. Fel arall, llenwch y dudalen ymholiadau a nodwch eich manylion, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
-
Proffiliau Plant
-
Jacob
-
James
-
Katie & Emma
-
Joanne
-
Adnoddau Plant
-
Rhestr o Lyfrau
-
Adolygiadau o Lyfrau
Adolygiadau o lyfrau
-
Blog Mabwysiadu
Ein Teuluoedd
Tachwedd 02, 2020Adeiledir Bae’r Gorllewin ar ei staff, y plant ac wrth gwrs ei fabwysiadwyr. Chi yw’r bobl rydym yn eich cynrychioli [...]Dyddiaduron Cyfyngiadau Symud Bae’r Gorllewin
Awst 28, 2020Dechreuodd mis Mawrth fel unrhyw fis arall. Er, yn bendant, gellir rhannu’r mis yn ddwy ran. Ar ddechrau mis [...]Mae’n ffaith wyddonol – mae bod yn garedig yn gwneud i chi deimlo’n dda!
Mai 22, 2020Mae ymchwil yn profi bod dangos caredigrwydd i eraill yn ein helpu i deimlo hapusrwydd gwirioneddol mewn sawl ffordd. Trwy [...]
-
Dolenni Defnyddiol
- AGC – Arolygiaeth Gofal Cymru – Rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
- Comisiynydd Plant – Hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
-
Diddordeb mewn mabwysiadu? Fe hoffem glywed gennych chi.