Dechreuodd mis Mawrth fel unrhyw fis arall. Er, yn bendant, gellir rhannu’r mis yn ddwy ran. Ar ddechrau mis Mawrth dwi’n cofio rhyw bryder rhyfedd fod papur tŷ bach bellach yr un mor werthfawr ag aur. Dwi’n cofio gwrando ar y newyddion gan bryderu mwyfwy am y ffaith bod y feirws yn carlamu drwy Ewrop ac yn teithio tuag atom ni – yma yn ne Cymru.  Na, ‘does bosib.

Daliodd y gwasanaeth ati i fynd trwy gydol y cyfnod cynnar hwn. Rhoesom rai rhagofalon ar waith yn gynnar – gan sicrhau ein bod ni’n cysylltu â phobl cyn i ni gynnal unrhyw ymweliadau, aros gartref os oedd gennym beswch neu dymheredd uchel, golchi’n dwylo ddiddiwedd! Ond heblaw am hynny, roedd dechrau mis Mawrth yn teimlo fel ‘busnes fel arfer’.

Ar 15 Mawrth, dechreuodd bethau deimlo fel eu bod nhw’n newid – yn syth. Roeddem eisoes wedi paratoi i weithio gartref lle bo’n bosib. Cawsom ein cyflwyno i Microsoft Teams am y tro cyntaf. Wrth ddefnyddio Teams ar gyfer gwaith a Zoom ar gyfer ein ‘cwis tafarn’ teulu wythnosol fel ffordd o gadw mewn cysylltiad, dechreuais ddiflasu wrth weld fy wyneb yn ymddangos ar y sgrîn yn syllu nôl arna i. (O leiaf ei fod yn dangos o’r gwddf i fyny’n unig – oherwydd mae’n rhaid i fi ddweud wrthoch chi nawr; mae magu pwysau yn ystod y cyfyngiadau symud yn ffenomena go iawn! Dwi’n gwybod – dwi’n brawf byw o hynny.)

23 Mawrth – Dwi ddim yn meddwl y byddaf erioed yn anghofio heddiw. Roedd yn rhaid i fi gasglu pensiwn fy mam ac fe gerddais i, yng nghwmni fy merch, drwy ein tref leol i swyddfa’r post. Doedd dim un enaid byw yno. Roedd pob siop ar gau. Roedd e’n annaearol o dawel ac mor llonydd. Aethom rownd y gornel a dod o hyd i un llinell o bobl, a phob un yn aros 2 fetr ar wahân, yn dawel. Ymunon ni â’r ciw. Dywedais wrth fy merch bod angen iddi sefyll 2 fetr i ffwrdd. Meddai, ‘ond dwi’n byw gyda ti Mam’ gan rolio’i llygaid mewn ffordd ddigon nodweddiadol.

Roedd yn rhaid addasu i ffordd newydd o weithio’n gyflym. Dwi’n cofio fod y rhan fwyaf o fy nghwestiynau ynghylch fy ngwaith yn dechrau gyda’r geiriau ‘ond, sut?’

Ond sut gallwn ni gael panel mabwysiadu o hyd? Dyna oedd y cwestiwn cyntaf yr wythnos honno. Roeddwn i wedi tybio y byddai’n cael ei ohirio. Ond na, aeth yn ei flaen. Yn rhithwir ond gan ddefnyddio union yr un lefel o graffu ag o’r blaen.

Cynhaliwyd y cwrs paratoi – ond, sut? Eto, yn rhithwir a chyda’r adborth gwych arferol a’n hyfforddwr gwych, Mary.

Parhaodd ein hymweliadau asesu, yn rhithwir. (Eto, o’r gwddf i fyny diolch byth gan fy mod i wedi gwisgo dillad rhyfedd iawn yn ystod y cyfyngiadau symud!)

Ond sut gallwn ni baru plant? Rydym wedi llwyddo ac yn parhau i wneud hynny. Rydym yn cynnal ein cyfarfodydd cysylltu rheolaidd o hyd lle mae’r Tîm Recriwtio’n cwrdd â’r Tîm Dod o Hyd i Deuluoedd ac yn archwilio unrhyw baru posib. Rydym wedi paru… o blant ers y cyfyngiadau symud.

Ond, sut gallen ni leoli plant? Dyma oedd y cwestiwn mwyaf anodd, yn enwedig yn ystod yr wythnosau ar ddechrau’r cyfyngiadau symud. Roedd y cyfyngiadau symud yn heriol iawn ar gyfer ein mabwysiadwyr a’n plant a oedd eisoes wedi cael eu paru – roedd popeth yn teimlo fel pe bai wedi’i ohirio ac yn ystod yr wythnosau cyntaf doedd gennym ddim syniad am ba hyd y byddai hyn yn para. Roedd angen i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen fel y gallem  symud ein plant ymlaen.

Roedd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cynhyrchu canllawiau a defnyddiwyd y rhain gan Fae’r Gorllewin i lunio proses asesu risgiau newydd. Fesul achos, aethom ati i gynllunio’n ofalus sut y gellid trefnu cyflwyniadau a sut y gellid lleoli plant a chefnogi teuluoedd.

Crëwyd y cysyniad o gyflwyniadau rhithwir. Mae’r syniad wedi bod mor llwyddiannus, mae’n rhywbeth y gallem barhau i’w wneud yn y dyfodol.

Hyd heddiw mae Bae’r Gorllewin wedi lleoli 42 o blant ers cychwyn y cyfyngiadau symud. Rydym yn cynnal adolygiadau ac yn cyflwyno ceisiadau i’r llys. Mae gwrandawiadau llys yn cael eu cynnal a rhoddwyd gorchmynion mabwysiadu.

Mae ein tîm cefnogaeth ôl-fabwysiadu wedi bod yn cefnogi ein holl blant a theuluoedd yn ystod y misoedd heriol a thrawmatig hyn. Mae Grwpiau Cefnogaeth wedi parhau’n rhithwir drwy gydol y cyfyngiadau symud.

Felly, mae pawb wedi addasu ac wedi dod o hyd i ffordd o ddal ati.

Heblaw am fagu pwysau, steil gwallt rhyfedd newydd ac aeliau amheus, mae’r ‘normalrwydd’ newydd wedi cyflwyno nifer o fanteision rhyfedd. Mae’r dyddiau lle byddem yn treulio 3 awr yn teithio i gyfarfod a 3 awr yn teithio yn ôl wedi mynd. Maent yn gallu digwydd yn gyflym ac yn effeithiol (heb neb yn gwybod eich bod chi’n gwisgo legins smotiog a sliperi blewog).

Dwi wedi siarad gyda rhai o’m cydweithwyr yn fwy nag erioed o’r blaen ac mae sawl cyfeillgarwch go iawn wedi’i feithrin. Rydym bellach yn dîm agos a chefnogol iawn.

Nawr – oes gan unrhyw un rif ffôn Joe Wicks?

 

Mae’n ffaith wyddonol – mae bod yn garedig yn gwneud i chi deimlo’n dda!Ein Teulu – Cyfres Fideo