Ar ôl y storm

Prynhawn dydd Mawrth yn hwyr ym mis Chwefror,  a’r glaw yn bwrw ffenestri pencadlys Bae’r Gorllewin yn ystod 3edd neu 4edd storm y mis.  Dennis, Ciara, Jorge…teulu o stormydd ym mis Chwefror, mae’n debyg.

Roeddwn yn cysylltu â chyplau a fyddai’n fodlon gweithio gyda ni i rannu eu straeon ar gyfer wythnos mabwysiadu a maethu LGBTQ+. Roeddwn yn cofio’r teulu Morgan-Thomas o gwrdd â nhw yn ystod eu hyfforddiant paratoi at fabwysiadu.

Roedd eu brwdfrydedd a’u hymagwedd gadarnhaol wedi fy nharo.

Yna dderbyniais ateb i fy e-bost yn syth gan James, a oedd yn dweud ei fod yn ymwybodol o wythnos mabwysiadu LGBTQ+ ac yn gofyn sut y gallai helpu.

Gan fy mod yn awyddus i gyfarfod ag ef, awgrymais amser ar y dydd Llun canlynol.

Dywedodd James ei fod mewn cyfarfod panel ddydd Llun ond y gallai gwrdd ar ôl hynny.

Co ni off.

Prynhawn dydd Llun, wythnos gyntaf mis Mawrth. Yn ystod saib rhwng y stormydd, cefais alwad ffôn gan Matthew.

“Rydym wedi cael ein cymeradwyo!! Byddwn yn cwrdd â thi ymhen hanner awr!”

 

Roedd Matthew a James yn amlwg yn wên o glust i glust pan gwrddais i â nhw. Siglais law â nhw a’u llongyfarch.

Gofynnais pam ddewison nhw ein hasiantaeth ni, gan fod y cwpl yn dod o ardal sy’n agosach at Fro Morgannwg na Bae’r Gorllewin.

“Aethom i ddigwyddiad Pride Caerdydd,” atebodd Matthew.

“Ni chawsom brofiad da iawn gydag asiantaeth arall yng Nghymru, ac roeddem yn ystyried cysylltu â’r asiantaeth leol yn ein rhanbarth ni, yna dechreuom siarad â gweithiwr cymdeithasol hyfryd yn stondin Bae’r Gorllewin yn y digwyddiad,” meddai.

“Nid dyna oedden ni’n ei ddisgwyl, â dweud y gwir,” ychwanegodd James. “Roedd hi mor gyfeillgar ac roedd ei brwdfrydedd am y gwasanaeth a’r plant wedi’n sbarduno.”

Derbyniodd Matthew, sy’n gweithio fel ‘ecstra’ ar adegau yn ogystal â’i swydd fel gofalwr, argymhelliad gan aelod o’r cast ar raglen S4C, Pobol y Cwm.  Diolch yn fawr!

Wynebu eich ofnau

“Roedd cyfathrebu’n hawdd o’r dechrau, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn,” meddai Matthew. “Mae’n hynod bwysig, oherwydd nid yw hyn wedi bod yn broses hawdd.  Rydym wedi gorfod wynebu llawer o heriau.”

“Nid oeddwn yn gallu cysgu’r noson cyn y panel, ac roedd fy meddwl ar ras wrth i fi feddwl am bob posibilrwydd,” meddai Matthew.

“Drwy’r broses, hyd at gyfarfod y panel, roeddem yn adlewyrchu llawer am ein hunain,” meddai.

“Pam rydyn ni’n gwneud hyn? Pa fath o rieni ydym ni? Beth allwn ni ei gynnig i’r plentyn?”

Gallwn i fod wedi cynnig sawl ateb o fy nghyfnod byr gyda’r cwpl ac o deimlo eu gwresogrwydd, eu brwdfrydedd a’u dilysrwydd.

“Ond,” meddai James mewn llais calonogol,

“llwyddon ni, fel cwpl.”

“Cawsom ein cymeradwyo!”

“Mae wedi dod â ni’n nes at ein teulu hefyd,” meddai Matthew. “Nhw fydd yn eich cefnogi pan fyddwch yn derbyn plentyn. Maent wedi ein cefnogi trwy gydol y broses asesu.”

Yn ogystal â’u gwresogrwydd, gallaf synhwyro gwydnwch a chryfder cymeriad y dynion.

Bydd angen hynny.

Maent ar fin dechrau rhan nesaf eu taith, sef y broses o baru plentyn â’r cwpl yn seiliedig ar argymhellion y panel.

Bydd cyfathrebu a chefnogaeth yn bwysig unwaith eto. Rhaid cael cefnogaeth gan eu teulu, Bae’r Gorllewin a phobl sydd ar daith debyg.

Ystyriom hefyd faterion LGBTQ+.

“O ran ymostyngiad, mae goleuni ym mhen draw’r twnnel,” meddai Matthew. “Mae’r DU yn arwain y ffordd mewn gwirionedd.”

“Fodd bynnag,” ychwanegodd Matthew, “mae rhagor o waith i’w wneud ar draws y byd. Mae rhai gwledydd yn bell ar ôl ein hoes.”

 

Digwyddiadau am y tro cyntaf yn y gweithle

Y cwpl oedd y bobl gyntaf yn eu gweithleoedd (sef rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru) i gymryd absenoldeb mabwysiadu ar y cyd.

“Roedd yn rhaid i mi ymchwilio’r polisïau a’n hawliau er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn yr hyn yr oedd gennym hawl i’w gael. Nid oedd ein cyflogwyr yn ymwybodol; roedd angen i ni eu haddysgu,” ychwanegodd Matthew.

“Gellir gwneud rhagor i gynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn y mae gan bobl yr hawl iddo,” meddai James.

Wrth feddwl yn ôl i’r panel, dywedodd Matthew wrtha i fod aelodau’r panel wedi nodi faint a ddysgodd y dynion o’r cwrs Cyflwyniad i Fabwysiadu 4 diwrnod.

“Mae’r pethau a ddysgom am ymlyniad, datblygiad plentyn a modelau magu plant PACE wedi bod yn ardderchog,” meddai Matthew.

“Mae gennym lawer mwy i’w ddysgu ac rydym yn datblygu drwy’r amser,” meddai James.

Mae Matthew a James, sydd yn eu tridegau, wedi gweld llawer ac wedi byw trwy lawer yn eu bywydau.  Maent wedi wynebu llawer yn ystod eu taith i fabwysiadu.

Nid ydynt dan anfantais – mae’n eu gwneud yn rhieni unigryw.

“Anfonais e-bost at Radio 2 ar y ffordd i gyfarfod y panel,” meddai Matthew, “i ddweud wrthynt ein bod ar ein ffordd i gael ein cymeradwyo fel mabwysiadwyr o bosib.”

“Darllenodd Zoe Ball yr e-bost cyfan allan yn fyw ac roedd yn hynod gefnogol. Roeddwn i’n methu credu’r peth!”

“Roedd e’n eistedd gyda fi yn y car yn ei ddagrau pan ddarllenodd Zoe’r e-bost, y babi mawr!”

“Na, gwnaeth i mi chwerthin hyd at ddagrau, wrth gwrs!” protestiodd James.

 

 

 

Mae Pob Plentyn yn Arlunydd – Cystadleuaeth Celf Bae’r Gorllewin i Blant