Mae Adopting Together, prosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Plant Dewi Sant, Barnardo’s, Adoption UK a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, wedi derbyn Clod Uchel 1 yn y categori Budd Cymdeithasol a Chymunedol mewn Caffael yng Ngwobrau Go Wales 2018/19. Roedd Dewi Sant a’i phartneriaid, sy’n cynnwys y Gwasanaethau Mabwysiadu Rhanbarthol yng Nghymru a Bae’r Gorllewin yn eu mysg, yn un o chwe phrosiect yng Nghymru a gyrhaeddodd y rhestr fer. Roedd y prosiect yn gallu nodi sut mae buddion cymdeithasol a chymunedol wedi’u gwreiddio yn y prosesau caffael, gyda ffocws ar ganlyniadau i blant a mabwysiadwyr wrth wraidd datblygiad y prosiect.

Fframwaith Taith BywydCofrestr Fabwysiadu Newydd i Gymru