Mae Pob Plentyn yn Arlunydd oedd dyfyniad enwog Picasso, ac yn ôl yr ymatebion i’r gystadleuaeth gelf i blant a gynhaliwyd gennym yn ystod mis Chwefror a Mawrth, rydym yn dueddol o gytuno!

Gofynnon ni i blant ein tri awdurdod lleol greu gwaith celf gwreiddiol yn seiliedig ar y thema ‘teulu’. Amrywiodd y ceisiadau o rai ciwt ac annwyl, i rai ysbrydoledig a deinamig i weithiau pwerus a seicedelig!

Roeddent yn brawf o dalent a dychymyg y plant gwych y mae’r gwasanaeth wedi gofalu amdanynt.

Rhannwyd y gystadleuaeth yn dri chategori oedran: 0 – 5 oed, 6 – 11 oed ac 11 oed ac yn hŷn. Cynhaliwyd y digwyddiad beirniadu cyntaf yn Ystafell Dderbyn Maer Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth, 3 Mawrth. Roedd rhaid i’r Maer a’r Cynghorydd Phil White ddewis enillwyr y categori 0 – 5 oed, gan ddewis o’r opsiynau isod:

Wrth grynhoi, meddai’r Cynghorydd White, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, “Maen nhw’n syml, fel y byddai’r disgwyl. Ond mae yna negeseuon yn yr holl ymdrechion – o’r hyn yw teulu a beth mae’n ei olygu i’r plant hyn.”

Cynhaliwyd y beirniadu ar gyfer y categori 11 oed ac yn hŷn yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer yn Neuadd y Ddinas Cyngor Abertawe. Roedd ein beirniaid y dydd, yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Peter Black, a’r Prif Weithiwr Cymdeithasol Kate Tonconi, mewn tipyn o gyfyng-gyngor wrth geisio penderfynu ar yr enillwyr.

Fel y gwelir isod, roedd caleidosgop go iawn o liw a dyfeisgarwch yn cael ei arddangos, yn seiliedig ar y thema ‘teulu’:

“Roedd dewis tri yn unig yn anodd iawn”, meddai’r Arglwydd Faer. “Bydd yr enillwyr yn derbyn talebau llyfrau, ond mae’r gwasanaeth yn bwriadu defnyddio’r gweithiau celf ar becynnau gwybodaeth, posteri a’r wefan – gan wneud y gwasanaeth yn fwy lliwgar, yn llawn hwyl ac yn un sy’n canolbwyntio ar y plentyn.”

Yn olaf, ond nid yn lleiaf, oedd y categori 6 – 11 oed, a feirniadwyd gan y Cynghorydd Alan Lockyer a’r Maer Ieuenctid Abi Price yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ar 5 Mawrth. Unwaith eto, treuliodd y beirniaid sbel yn penderfynu ar eu henillwyr, a hynny oherwydd y safon a’r dychymyg a ddangoswyd.

Meddai’r Cynghorydd Alan Lockyer, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Cyngor Castell-nedd Port Talbot, “Rydym wedi ein hymrwymo i adeiladu ar ein gwaith hawliau plant i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynegi barn ar faterion sy’n effeithio arnynt. Mae gweithgareddau fel y rhain yn helpu i sicrhau bod plant yn teimlo’n rhan o’r gwasanaeth ac y clywir eu lleisiau.

“Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin rôl allweddol wrth drawsnewid bywydau plant sy’n aros mewn gofal am gartref parhaol, cariadus. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu i gysylltu ag aelod o’n tîm mabwysiadu rhagorol a darganfod sut y gallech chi roi dechrau newydd mewn bywyd i blentyn.”

 

Diolch unwaith eto i’r teuluoedd gwych am gyflwyno eu gwaith. Disgwylir i’r enillwyr dderbyn talebau llyfrau ynghyd â’u gwaith celf wedi’u fframio yn ôl drwy’r post yn fuan.

Bydd pob ymgeisydd yn derbyn tystysgrif am ymgeisio ac am ei ymdrechion i gynnig ychydig o liw i’r gwasanaeth.

 

Cam mawr yn nes at fod yn rhieniMae’n ffaith wyddonol – mae bod yn garedig yn gwneud i chi deimlo’n dda!