Dechreuadau newydd

Mae Ricky* a Jade, dau fabwysiadwr newydd o Abertawe, wedi bod gartref bellach am bythefnos gyda’u plentyn bach, Pria.  Wrth i fi ddechrau ysgrifennu fy nodiadau, mae Pria yn ceisio dwyn fy meiro o hyd.

“Maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy a dweud y gwir” meddai Ricky, wrth i mi sôn am rôl y gofalwyr maeth yn ystod y broses mabwysiadu.

“Rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud” ychwanegodd Jade “y byddai mabwysiadu’n go wahanol oni bai am faethu”

Gan fy mod am gael rhagor o wybodaeth a gwybod sut bobl yn union yw gofalwyr maeth, es i ati i ofyn pa fath o berson y mae ei angen i gyflawni rôl fel hon.

“Gallech chi ddweud bod hyn yn fwy na swydd yn unig i Glenda, roedd cariad mawr yno – nid rhyw broses neu alwedigaeth neu swydd oedd hi” meddai Jade gan fy nghywiro’n syth.

Cyngor a Phrofiad Arbenigol

“Roedd emosiynau cymysg yn ystod y cyflwyniadau” ychwanegodd Ricky,

“Dyma’r person arall hwnnw sy’n gofalu am eich plentyn. Roeddwn i dros y lle i gyd. Roedd e’n brofiad blinderus iawn, doeddwn i ddim yn bwyta’n iawn a’r unig beth allen ni feddwl amdano doedd dod â hi adref”

“Ond roedd y cyflwyniadau hyn mor bwysig” meddai, “dysgon ni am ei harferion, sut mae’n hoffi chwarae, ac roedd gennym gynifer o gwestiynau ac roedd gan Glenda a Pete atebion iddyn nhw i gyd”

“Mae hi bob amser ar ben arall y ffôn” ychwanegodd Jade, “efallai fod rhai o’r pethau y bu’n rhaid i ni ofyn iddi’n ymddangos yn ddiystyr, ond gyda’i gilydd maen nhw’n bwysig iawn i helpu’r broses drawsnewid ac ymgartrefu.”

“Mae pethau bach fel pa bowdwr golchi i’w ddefnyddio i helpu gyda chynefindra a beth i’w wneud pan fydd Pria’n cael pyliau o dymer ac yn gwrthod cysgu, ddylen ni i ddod â hi lawr stâr neu ei chysuro yn ei chrud?”

“Profiad sy’n hollbwysig” oedd casgliad Ricky “nhw yw’r arbenigwyr”.

Cyd-ddealltwriaeth

Dewisodd y cwpwl fabwysiadu drwy Fae’r Gorllewin ar ôl i ffrind fod drwy’r broses yn llwyddiannus.

“Holon ni drwy St David’s hefyd” ychwanegodd Jade “ond Bae’r Gorllewin  ymatebodd yn gyntaf”

“Rhywbeth arall fu’n ddefnyddiol hefyd oedd bod ein gweithiwr cymdeithasol ar y dechrau â phrofiad o fabwysiadu ei phlant ei hun, roedd hi wedi bod drwy’r un broses â ni” meddai Ricky.

Mae Pria nawr yn chwarae gyda’i chegin pinc ac oren yng nghanol yr ystafell ac mae’n gwneud pizzas i ni gyd.

“Mae’n drawiadol mor gyflym y mae hi’n datblygu ac yn gwneud cynnydd” meddai Jade.

Roedd y broses gyfan, o’r ymholiad cychwynnol i gwrdd â’r plentyn, wedi cymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl, ac roedd Ricky yn arbennig wedi’i chael hi’n anodd ymdopi’n feddyliol â rhai agweddau ar y broses.

Bythefnos ar ôl mabwysiadu’r un bach, maent yn ymddangos yn fodlon, ac wedi ymlacio a dadflino.

“Ar ôl proses sydd wedi bod yn llawn straen ar adegau, mae pennu arferion dyddiol ac amserau gwely cyson wedi gwneud gwahaniaeth mawr – rydyn ni wedi gallu dechrau arni â brwdfrydedd.”

#GofalwyrMaethGwych

*Newidiwyd enwau i ddiogelu hunaniaeth

“Mae eich bywyd yn newid….roedden ni am i hynny ddigwydd” – JessChildrens art cymraeg