Datganiad Newyddion gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru
Ymgyrch wedi’i lansio i ddod o hyd i fabwysiadwyr ar gyfer plant ag oedi datblygiadol, problemau iechyd a grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd
Heddiw, (14 Gorffennaf), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi galwad i ddod o hyd i deuluoedd parhaol ar gyfer y grŵp o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru sy’n aros hwyaf i gael eu mabwysiadu.
Wrth i’r gwasanaeth gyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol, sy’n dangos gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau mabwysiadu ar draws gwasanaeth mabwysiadu tair haen arloesol Cymru, datganwyd bod pwyslais allweddol yn cael ei roi ar anghenion grŵp bach o blant sy’n aros hwyaf yn nodweddiadol.
Dywedodd Suzanne Griffiths, cyfarwyddwr gweithrediadau’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol: “Am y tro cyntaf y galla’ i ei gofio, mae gennym ni fwy o fabwysiadwyr yn aros i gael eu paru na phlant sydd ar gael gyda chynlluniau mabwysiadu priodol.
“Mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw blant yn aros pan fo gennym ni fabwysiadwyr ar gael, ond weithiau nid yw amgylchiadau’r plant a’r mabwysiadwyr sydd ar gael yn cyd-fynd.
“Yn amlach na pheidio, y rheswm yw hynny yw oherwydd nad yw mabwysiadwyr yn gallu ymdopi neu’n fodlon ymdopi ag anghenion penodol y plant sydd ar y gofrestr fabwysiadu genedlaethol ar hyn o bryd.
“Y rhai sy’n fwyaf tebygol o orfod aros yn hirach o lawer i ddod o hyd i fabwysiadwyr addas yw plant sy’n rhan o grŵp mawr o dri neu fwy o frodyr a chwiorydd rydym ni’n ceisio eu lleoli gyda’i gilydd.
“Mae plant eraill y mae’n aml yn fwy anodd dod o hyd i fabwysiadwyr addas ar eu cyfer wedi wynebu esgeulustod neu gamdriniaeth yn ystod eu bywyd cynnar neu cyn geni sy’n peri i weithwyr proffesiynol feddwl y gallai fod ganddynt anghenion iechyd a chymdeithasol sylweddol, gan gynnwys anawsterau corfforol a datblygiadol.
“Dyna pam rydym ni’n lansio’r ymgyrch Cymru gyfan hon i chwilio am fwy o fabwysiadwyr posibl sy’n barod i dderbyn y plant penodol hyn. Ymgyrch onest ac agored yw Gweld y Plentyn Cyfan (#GweldYPlentynCyfan) sy’n ceisio annog pobl sy’n ystyried mabwysiadu i fynd at y broses gyda meddwl agored.
“Mae arnom angen pobl sydd â lle yn eu bywydau am blentyn, cariad i’w roi ac amynedd, sef nodweddion unrhyw riant da yn y bôn. Os gallan nhw weld y tu hwnt i’r problemau, y tu hwnt i’r heriau a gweld y plentyn cyfan, gallan nhw a phlant sy’n aros i gael eu mabwysiadu gael dechrau newydd a chyfle i gael bywyd teuluol sefydlog.”
Straeon Mabwysiadwyr
Mae teuluoedd mabwysiadol ledled Cymru wedi cyfrannu at yr ymgyrch trwy adrodd eu straeon mabwysiadu. Mae gan y mabwysiadwyr Helen a Gareth ddau o blant sydd ag oedi datblygiadol a dyslecsia.
Mae Helen yn dweud: “Mae oedi ein mab yn sicr yn heriol, ond mae’n rhan o’i gymeriad. Ni fuaswn yn ei newid am y byd.
“Fy safbwynt i yw y buaswn i wedi’i garu a gwneud popeth y gallwn i’w helpu gyda’r problemau hyn petawn i wedi rhoi genedigaeth iddo, ac nid yw’n wahanol i mi dim ond oherwydd ei fod wedi’i fabwysiadu. Efallai nad yw’r siom o gael plentyn ag anghenion arbennig yn bodoli pan fyddwch chi’n mabwysiadu oherwydd bod gweithwyr proffesiynol wrth law i’ch helpu i ddeall pa heriau y gallech eu hwynebu cyn i chi gytuno ar y lleoliad.
“Mae’n bwysig bod yn onest gyda chi eich hun a chyda’r gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y broses baru ynglŷn â’r hyn y byddech ac na fyddech yn fodlon ymdopi ag ef.”
Roedd Eileen, sy’n fam fabwysiadol i dri o blant, yn gwybod ei bod hi eisiau teulu mawr ond nid oedd yn gallu cael plant ei hun. “Pan benderfynon ni ystyried mabwysiadu, roedd y teimlad o ryddhad yn enfawr. Cymerodd y broses o gael ein cymeradwyo a’n paru â Martin tua 18 mis i ddechrau, ond roedd hynny bron 18 mlynedd yn ôl ac mae’r broses yn gyflymach o lawer nawr. Daeth ei chwaer Jenny yn fuan iawn wedi hynny a chyrhaeddodd Ellie-Rose bedair blynedd yn ddiweddarach pan feichiogodd eu mam fiolegol unwaith eto.
“Mae tri o blant yn creu digon o sŵn a chewynnau/clytiau yn sicr, ac mae’r addasiad pan fyddan nhw i gyd yn cyrraedd ar yr un pryd neu o fewn cyfnod byr yn gallu bod yn anodd iawn. Ni fu’n fêl i gyd ond rydyn ni i gyd yn ymdopi ar y cyfan.
“Yn bwysicaf oll, rydw i wedi’u cadw nhw gyda’i gilydd ac, er bod y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd yn gallu bod dan straen ar brydiau mewn unrhyw deulu, bydd ganddyn nhw ei gilydd bob amser. Mae hynny’n rhywbeth arbennig.”
Cymorth Ledled Cymru
Mae’r ymgyrch yn lansio heddiw gyda chymorth y pum cydweithfa fabwysiadu ranbarthol ac asiantaeth fabwysiadu wirfoddol, sef After Adoption, Adoption UK, Barnardo’s Cymru a Chymdeithas Plant Dewi Sant ac AFA Cymru.
Croesawyd yr ymgyrch gan gadeirydd bwrdd llywodraethu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, sef y Cynghorydd Mel Nott OBE, a ddywedodd: “Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cyflawni llawer iawn yn ystod ei 19 mis cyntaf. Mae’r pum cydweithfa ranbarthol wedi’u sefydlu ac ar waith; mae’r broses gymeradwyo ar gyfer mabwysiadwyr posibl yn cael ei symleiddio; mae’r broses o baru plant â theuluoedd mabwysiadol wedi’i gwella; ac rydym ni wedi ymgorffori Cofrestr Mabwysiadu Cymru yn y gwasanaeth.
“Mae sawl ffactor yn cyfrannu at leihau nifer y plant sy’n gadael gofal trwy fabwysiadu. Nid lleiaf o’r rhain yw penderfyniadau diweddar gan lysoedd teulu ac apêl sydd wedi golygu bod llai o blant yn cael eu hystyried ar gyfer mabwysiadu.
“Ar wahân i hynny, mae’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i recriwtio, cymeradwyo a pharatoi mabwysiadwyr posibl wedi gweld mwy o bobl nag erioed yn cynnig rhoi cartref teuluol diogel a pharhaol i rai o’r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
“Cyhoeddodd pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ym mis Mawrth 2016. Dangosodd yr adroddiad hwn fod y cynnydd yn dda ond bod angen gwneud mwy er mwyn i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru fod y gorau oll, yn enwedig o ran cymorth ar ôl mabwysiadu. Mae datblygu’r cymorth hwn yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol hefyd.
“Mae’r ymgyrch #GweldYPlentynCyfan yn ffordd arall i ni gynllunio ar gyfer bodloni anghenion plant yn well lle y penderfynwyd mai mabwysiadu yw’r dewis gorau iddynt ar gyfer bywyd sefydlog, diogel a hapus.”
Mae gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’i Fwrdd Llywodraethu yn cael ei gefnogi a’i gynghori gan Grŵp Cynghori Annibynnol. Dywedodd Phil Hodgson MBE, Cadeirydd y Grŵp Cynghori: “Mae llawer wedi’i wneud i gyflawni’r disgwyliadau Gweinidogol a amlinellwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae hynny i’w groesawu.
“Mae’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol wedi cydweithredu i wireddu hynny, ac rydym ni wedi gwrando ar safbwyntiau mabwysiadwyr a phlant mabwysiedig i sicrhau bod y gwasanaeth yn esblygu i fodloni eu hanghenion.”
Mabwysiadu yng Nghymru – Niferoedd
Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2016:
- Ymatebwyd i 97% o ymholiadau o fewn wythnos
- Cymeradwywyd 320 o fabwysiadwyr (+9%)
- Lleihaodd yr amser a gymerwyd i gymeradwyo mabwysiadwyr 9.4% i 8.6 mis
- Rhoddwyd 6% yn llai o Orchmynion Lleoli
- Lleihaodd yr amser a dreuliwyd mewn gofal cyn mabwysiadu i 15.2 mis (o 16.6 mis)
- Gostyngodd canran y plant sy’n aros mwy na chwe mis o adeg gorchymyn lleoli gan Lys i gael eu lleoli i 53% (-14%)
- Mae canran y lleoliadau mabwysiadu sy’n chwalu yng Nghymru yn dal i fod yn isel, sef 3-4%
- Gostyngodd nifer y plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu (ar ddiwedd y flwyddyn) 15% i 54 o blant, nad oedd gan 38 ohonynt fawr o gyfle neu ddim cyfle o gael eu paru â mabwysiadwyr a oedd ar gael – roedd 19 yn rhan o grŵp brodyr a chwiorydd ac roedd gan 16 anghenion mwy cymhleth neu roeddent yn hŷn
- O’r 110 o fabwysiadwyr cymeradwy ar Gofrestr Fabwysiadu Cymru, roedd 90% eisiau un plentyn yn unig ac roedd 34% eisiau plentyn iau na dwyflwydd oed.
I gael rhagor o wybodaeth ar gyfer y cyfryngau, cysylltwch â:
Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin ar 0300 365 2222 neu John Wilkinson – Wilkinson PR & Comms – 07967 967463 – john@wilkinsonpr.co.uk
Nodiadau i Olygyddion:
Cyfleoedd ar gyfer cyfweliad a chyfleusterau
- Mae’r holl gyfathrebu ynglŷn â chyhoeddi’r adroddiad blynyddol a lansio’r ymgyrch Gweld y Plentyn Cyfan (#SeeTheWholeChild) yn cael ei gydlynu trwy Wilkinson PR & Comms (WPR).
- Mae cyfweliadau ar gyfer cyfryngau print, ar-lein a darlledu ar gael trwy WPR gyda:
• Mabwysiadwyr
• Suzanne Griffiths, cyfarwyddwr gweithrediadau, y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
• Phil Hodgson MBE, cadeirydd annibynnol, grŵp cynghori’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol - Mae cynnwys cyfweliad clywedol / fideo o ansawdd darlledu ar gael ar gais.
- Dylai ceisiadau am sylwadau gan Lywodraeth Cymru gael eu cyfeirio at Kathryn Jones yn swyddfa’r wasg – Kathryn.Jones@wales.gsi.gov.uk / 029 2089 8938
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru
Cydweithfa arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yw Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2014. Mae wedi dwyn ynghyd wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol yn strwythur tair haen sy’n cynnwys partneriaethau ar bob lefel ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg ac eraill.
Yn lleol, mae pob awdurdod lleol yn parhau i ddarparu gwasanaethau i’r holl blant sy’n derbyn gofal ar yr un pryd ag amlygu a gweithio gyda’r plant hynny y mae cynllun mabwysiadu’n briodol ar eu cyfer.
Yn rhanbarthol, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd o fewn pum cydweithfa ranbarthol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau mabwysiadu.
ae’r gwasanaethau a ddarperir yn wahanol ym mhob cydweithfa, ond maen nhw i gyd yn darparu swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer plant, yn recriwtio ac asesu mabwysiadwyr, ac yn cynnig cwnsela i rieni genedigol a chyngor i oedolion sydd wedi cael eu mabwysiadu. Mae rhai’n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn uniongyrchol ar hyn o bryd, tra bod awdurdodau lleol yn parhau i gyflawni’r swyddogaeth hon mewn eraill. Mae gan bob cydweithfa ranbarthol gysylltiadau â’r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, iechyd ac addysg.
Yn genedlaethol, mae’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a thîm canolog bach, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran yr holl awdurdodau lleol, yn darparu cyfeiriad, datblygiad a chydlyniad cenedlaethol. Ers mis Medi 2015, mae’r tîm canolog wedi rheoli Cofrestr Fabwysiadu Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae’r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol yng Nghymru yn cydweithredu fel y Bartneriaeth Fabwysiadu Wirfoddol Strategol; mae hyn yn cynnwys Cymdeithas Plant Dewi Sant [sy’n cynnwys y Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu yng Nghymru (AFA Cymru)], Adoption UK, After Adoption a Barnardo’s Cymru.